Athro da, ar ddechrau’r dydd
dysg ni oll yng ngwersi’r ffydd,
boed ein meddwl iti’n rhodd
a’n hewyllys wrth dy fodd.
Athro da, disgybla ni
yn dy gariad dwyfol di
fel y gallwn ninnau fod
yn ein bywyd iti’n glod.
Athro da, O arwain ni
yn ddiogel gyda thi;
wrth dy ddilyn, gam a cham,
ni ddaw inni unrhyw nam.
IFOR REES © D. Anne Rees. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 20)