Bendithiaist waith ein dwylo,
coronaist lafur dyn,
dy dirion drugareddau
gyfrennaist i bob un;
rhoist had yn llaw yr heuwr,
rhoist i’r medelwr nerth
i gasglu’r trugareddau
sydd inni’n gymaint gwerth.
Rheolaist y cymylau,
y glaw, y gwynt a’r gwres;
y ddaear gras a’r awyr
dyneraist er ein lles:
am lawnder dy fendithion
heb ball i deulu’r llawr,
pa dafod a all beidio
â chanmol d’enw mawr?
WILLIAM THOMAS, 1828-99
(Caneuon Ffydd 86)