logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Bendithion

Yn ceisio bendith
Yn ceisio hedd
Cysur i’m teulu, diogelwch yn y nos
Yn ceisio iechyd
A llewyrch nawr
Yn ceisio nerth dy law i esmwythau ein cur
A thrwy hyn oll, ti’n gwrando ar bob gair
Ac yn dy gariad di, ti’n gwybod yn well

Os trwy dreialon daw dy fendith
Os trwy ein dagrau daw iachad
Beth os mai dyma beth sy’n gorfod bod
i brofi’th gwmni Di
A beth os mai bendithion cudd ydyw’n holl dreialon ni

Rwy’n ceisio clywed
Dy lais yn glir
Rwy’n teimlo’n flin pan rwyt ti’n teimlo’n bell i ffwrdd
Rwy’n d’amau dithau
A’th gariad di
Rwyf yn anghofio am dy addewidion di
A thrwy hyn oll, ti’n gwrando ar bob gair
Yn ysu am i ni gael ffydd i barhau

Cytgan

Pont
Pan gilia ffrindiau
A’r twyllwch yn amgylchu
Mae’r boen yn ein hatgoffa
Mai gyda thi mae ein cartref ni
Ein cartref ni
Os trwy dreialon daw dy fendith
Os trwy ein dagrau daw iachad
Beth os mai dyma beth sy’n gorfod bod
i brofi’th gwmni Di
Ac os mai trwy lawer siomedigaeth
Neu ryw boenau ddaw i’n rhan
Fydd yn dangos syched enfawr na all pethau’r byd ei gwrdd
A beth os mai treialon byw, y glaw a stormydd gwyllt y nos
Ydyw dy fendithion cudd

© 2011 Laura Stories (Admin. by / Small Stone Media BV, Holland (Admin. in the UK/Eire by Song Solutions www.songsolutions.org))
New Spring (Admin. by / Small Stone Media BV, Holland (Admin. in the UK/Eire by Song Solutions www.songsolutions.org))
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
Defnyddiwyd trwy ganiatâd

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 9, 2020