logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Bydd fy nheulu a mi

Pennill 1
O boed i’n sylfaen fod
Ar dy ogoniant Di
Boed i dy eiriau oll
Lenwi’r tŷ

Iesu ein hangor ni
Sail ein heneidiau ni
Mae’n cariad ni i’w weld
Er dy glod

Corws
Bydd fy nheulu a mi
Bydd fy nheulu a mi
Yn gwasanaethu
Yn gwasanaethu

Bydd fy nheulu a mi
a bydd dim troi yn ôl
Yn gwasanaethu
Yn gwasanaethu

Pennill 2
Safwn ar sanctaidd dir
Yma’r daw’r coll yn ôl
Mae dy ddaioni Di
Yn llifo nawr

Mae’th gwmni Di fel gwin
Mae’r pethau hen ‘di mynd
A bywyd newydd sydd
Yma nawr

Corws (X2)

Pont
Fan yma nid oes eilun nawr
Fan yma daw y meirw’n fyw
Fan yma, mae ‘na alwad glir
I ryddid nawr, rhyddid nawr.

Corws

AS FOR ME AND MY HOUSE (Austin Adamec, Lindsay Adamec, Rhyan Shirley & Travis Ryan) / BYDD FY NHEULU A MI (Cyf. Arwel E Jones ac Arfon Jones)
© 2020 Integrity’s Alleluia! Music/Integrity’s Praise! Music/Rhyan Shirley Pub/The Worship Society (Gwein. gan CapitolCMGPublishing.com ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Integrity Music, rhan o deulu David C Cook songs@integritymusic.com)

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • February 10, 2021