Cais yr Iesu mawr gennym ni o hyd
Megis lampau bychain deg oleuo’r byd;
Tywyll yw’r holl daear, felly gwnaed pob un
Bopeth i oleuo ei gylch ei hun.
Cais yr Iesu mawr gennym ar ei ran
Ef ei hun oleuo, er nad ŷm ond gwan;
Tremia ef o’r nefoedd, ac fe wêl bob un
Fyddo yn goleuo ei gylch ei hun.
Susan Warner (1819-85) cyf. Ap Ionawr (1856-1911)
(Yr Atodiad: 923)
PowerPoint