Cân angylion ar yr awel
o gylch gorsedd Duw;
swynol nodau eu telynau
O fy enaid, clyw;
gwrando’r miloedd sy’n cyffesu
a chlodfori
enw Duw.
Ti sy ‘mhell tu hwnt i gyrraedd
ein golygon ni,
a all dynion pechadurus
ddod i’th ymyl di?
Dwed a elli di ein gwrando
a’n cysuro?
“Gallaf fi.”
Ti a’n creodd mor rhyfeddol
ar dy lun dy hun,
ti roes ddawn pob crefftwr medrus,
harddwch lliw a llun,
mwynder miwsig a chaneuon
a gorchestion
teulu dyn.
D’eiddo ydym; O sancteiddia
ninnau yn dy dŷ;
cymer galon, corff a meddwl
i’th wasanaeth di,
fel y gweler dy dangnefedd
a’th orfoledd
ynom ni.
FRANCIS POTT, 1832-1909 efel. MAY HARRIS, 1905-76 © geiriau Cymraeg, Nia Matthews
(Caneuon Ffydd: 144)
PowerPoint