Cofia’r newynog, nefol Dad,
filiynau llesg a thrist eu stad
sy’n llusgo byw yng nghysgod bedd,
ac angau’n rhythu yn eu gwedd.
Rho ynom dy dosturi di,
i weld mai brodyr oll ŷm ni:
y du a’r gwyn, y llwm a’r llawn,
un gwaed, un teulu drwy dy ddawn.
O gwared ni rhag in osgoi
y sawl ni ŵyr at bwy i droi;
gwna ni’n Samariaid o un fryd,
i helpu’r gwael yn hael o hyd.
Dysg inni’r ffordd i weini’n llon
er lleddfu angen byd o’r bron,
rhoi gobaith gwir i’r gwan a’r prudd,
ac archwaeth dwfn at faeth y ffydd.
Holl angen dyn, tydi a’i gŵyr,
d’Efengyl a’i diwalla’n llwyr;
nid digon popeth hebot ti:
bara ein bywyd, cynnal ni.
TUDOR DAVIES © Gwyn T. Davies. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 816)
PowerPoint