Credwn ni yn Nuw – Dad nefol,
Ef yw Crëwr popeth sydd,
Ac yng Nghrist ei Fab – Waredwr,
Aned i’n o forwyn bur.
Credwn iddo farw’n aberth,
Dwyn ein pechod ar y groes.
Ond mae’n fyw, fe atgyfododd,
Esgynodd i ddeheulaw’r Tad.
Iesu, ti yw’r Crist, gwir Fab Duw,
Iesu, ti yw’r Crist, gwir Fab Duw,
Iesu, ti yw’r Crist, gwir Fab Duw,
Iesu, ti yw’r Crist, gwir Fab Duw,
Atgyfodedig, a dyrchafedig.
(Tro olaf yn unig)
Atgyfodedig.
Credwn, hefyd, yn yr Ysbryd,
Rydd i’w eglwys nerth a dawn
I gyhoeddi Gair y bywyd
Ym mhob iaith drwy’r ddaear lawn.
Hyd nes daw yn ogoneddus
I farnu’r byw a’r meirw’i gyd.
Bydd pob tafod yn cyffesu,
A phob glin drwy’r byd a blyg.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, We believe: Graham Kendrick
Hawlfraint © 1986 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk)
Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 1: 168)
PowerPoint