logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cyduned nef a llawr

Cyduned nef a llawr
i foli’n Harglwydd mawr
mewn hyfryd hoen;
clodforwn, tra bo chwyth,
ei ras a’i hedd di-lyth,
ac uchel ganwn byth:
“Teilwng yw’r Oen.”

Tra dyrchaif saint eu cân
o gylch yr orsedd lân,
uwch braw a phoen,
O boed i ninnau nawr,
drigolion daear lawr,
ddyrchafu’r enw mawr:
“Teilwng yw’r Oen.”

Molianned pawb ynghyd
am waith ei gariad drud,
heb dewi â sôn;
anrhydedd, parch a bri
fo i’n Gwaredwr ni
dros oesoedd maith di-ri’:
“Teilwng yw’r Oen!”

JAMES ALLEN (Glory to God on high), 1734-1804, efel. ISAAC CLARKE, 1824-75

(Caneuon Ffydd 363)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015