Cydunwn oll o galon rwydd
i foli’r Arglwydd tirion
am drugareddau’r flwyddyn hon
a’i ryfedd, gyson roddion.
Boed ein heneidiau oll ar dân
i seinio cân soniarus
o fawl i enw’r sanctaidd Iôr
am ddoniau mor haelionus.
O Arglwydd, dyro inni ras
i’th ffyddlon wasanaethu,
a thrwy dy roddion hael o hyd
i’th hyfryd ogoneddu.
Rho archwaeth i’n heneidiau drud
at bethau’r byd ysbrydol,
a gwna ni’n gymwys drwy dy ras,
bawb oll, i’th deyrnas nefol.
THOMAS REES, 1815-85
(Caneuon Ffydd 68)