Pan wyt ar fôr bywyd ac o don i don,
pan fo ofni suddo yn tristáu dy fron,
cyfrif y bendithion, bob yn un ac un,
synnu wnei at gymaint a wnaeth Duw i ddyn.
Cyfrif y bendithion, un ac un,
cyfrif gymaint a wnaeth Duw i ddyn,
y bendithion, cyfrif un ac un,
synnu wnei at gymaint a wnaeth Duw i ddyn.
A yw baich gofalon bywyd, ddaw i’th ran,
gyda phwysau’r groes yn llethu d’ysbryd gwan?
Cyfrif y bendithion a rydd nerth i’r daith;
yn lle cwyno, canu mwyach fydd dy waith.
Os oes rhai yn meddu aur a thir y llawr,
cofia fod i tithau etifeddiaeth fawr;
cyfrif y bendithion, maent uwch gwerth y byd,
eiddot Iesu’n ffrind, a’r nef yn gartref clyd.
Felly yn y rhyfel, er mor danllyd yw,
paid â digalonni – drosot mae dy Dduw;
cyfrif y bendithion, mae ei engyl ef
yn dy wylio nes it gyrraedd fry i’r nef.
JOHNSON OATMAN, 1856-1922 cyf. T. G. THOMAS, 1859-1937
(Caneuon Ffydd 142)
PowerPoint