Daeth eto fore Saboth,
boed arnom yn dy dŷ
brydferthwch dy sancteiddrwydd
a’r llewyrch oddi fry;
dy air y bore cyntaf
aeth drwy y gwagle’n wawr:
tywynna arnom ninnau,
O Arglwydd, yma nawr.
Daeth eto fore Saboth,
O Iesu, rho i ni
gael blas ar wrando’r ddameg,
fel gynt ar lân y lli;
awelon Galilea
fo’n cerdded drwy ein gwlad;
bydd di’n dy eiriau heddiw,
O annwyl Fab y Tad.
Daeth eto fore Saboth,
rho inni, Ysbryd Glân,
gael profi nerthoedd Salem
a grym tafodau tân;
achubwyd yno dyrfa
drwy werth yr aberth mawr,
O achub filoedd heddiw
dros ŵyneb daear lawr.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 25)