Daeth Iesu o’i gariad
i’r ddaear o’r nef,
fe’i ganwyd yn faban
ym Methlehem dref:
mae hanes amdano
’n ôl tyfu yn ddyn
yn derbyn plant bychain
i’w freichiau ei hun.
Mae’r Iesu yn derbyn
plant bychain o hyd:
Hosanna i enw
Gwaredwr y byd!
Sefydlodd ei deyrnas
i blant yn y byd,
agorodd ei fynwes
i’w derbyn i gyd:
“Gadewch i blant bychain
ddod ataf,” medd ef,
“cans eiddo y cyfryw
yw teyrnas y nef.”
Pan oedd yn mynd heibio
i’r ddinas neu’r dref,
y plant â’u Hosanna
oedd uchaf eu llef:
’roedd Iesu yn tynnu
y plant ato’i hun,
a bendith yn barod
ar gyfer pob un.
Mae’r Eglwys a’r ddaear
a’r nefoedd a Duw
yn noddfa, yn gartref
i’w cadw yn fyw:
mae miloedd ar filoedd
o blant yn y nef
yn seinio Hosanna
am byth iddo ef.
WATCYN WYN, 1844-1905
(Caneuon Ffydd 395)
PowerPoint