Priodas
Dduw Dad, bendithia’r mab a’r ferch
ar ddechrau’u hoes ynghyd,
ar ddydd eu priodas pura’u serch
â’th gariad dwyfol, drud.
Bendithia di eu cartref hwy
â’th bresenoldeb glân,
dy hedd fo’u gwledd i’w cynnal drwy
bob dydd, a’i droi yn gân.
Rho iddynt nerth bob cam o’r daith
ac arwain hwy, O Dduw,
i’th wasanaethu ymhob gwaith
a’u ffydd yn ffordd o fyw.
Cysegra eu cyfamod gwyn
mewn undod dwfn heb loes;
gwiredda ein gweddïau hyn
i’w cadw hyd eu hoes.
TUDOR DAVIES © Gwyn T. Davies. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 635)
PowerPoint