Deffro ‘nghalon, deffro ‘nghân
i ddyrchafu
clodydd pur yr Arglwydd glân,
f’annwyl Iesu;
uno wnaf â llu y nef
â’m holl awydd
i glodfori ei enw ef
yn dragywydd.
Crist yw ‘Mhrynwr, Crist yw ‘Mhen,
a’m Hanwylyd,
Crist yw f’etifeddiaeth wen,
Crist yw ‘mywyd,
Crist yw ‘ngogoneddus nef
annherfynol:
gwleddaf ar ei gariad ef
yn dragwyddol.
BENJAMIN FRANCIS, 1734-99
(Caneuon Ffydd 359)
PowerPoint