Derbyniwyd gynt gan Fab y Dyn
blant bach i’w freichiau ef ei hun:
“Ac na waherddwch hwynt,” medd ef,
“cans eiddynt hwy yw teyrnas nef.”
O’n bodd dilynwn ninnau nawr
esiampal gu yr Iesu mawr:
pwy gaeai ddrws ei eglwys ef
a’r Iesu’n agor drws y nef?
THOMAS WILLIAMS, 1771-1845
(Caneuon Ffydd 642)
PowerPoint