logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Deuaf atat Iesu

Deuaf atat Iesu,
cyfaill plant wyt ti;
ti sydd yn teilyngu
mawl un bach fel fi.

Deuaf atat, Iesu,
gyda’r bore wawr;
ceisio wnaf dy gwmni
ar hyd llwybrau’r llawr

Deuaf atat, Iesu,
gyda hwyr y dydd;
drosof pan wy’n cysgu
dy amddiffyn fydd.

Deuaf atat, Iesu,
ar bob awr o’m hoes;
ti yn unig gedwi
blentyn rhag pob loes.

PELIDROS (W. R. P. JONES), 1876-1958

(Caneuon Ffydd 374)

PowerPoint