Deuwch i ganu, deuwch i foli
y Ceidwad a’n carodd ni;
plant bach y byd sy’n ei ddyled o hyd,
mae ef yn ein caru i gyd.
Tosturio wnaeth wrth bawb yn ddiwahân,
rhown iddo ein moliant a’n cân,
deuwch i ganu, deuwch i foli
am iddo ein caru ni.
Deuwch i ganu, deuwch i foli
y Ceidwad a’n carodd ni;
gwelai yn fuan fawr angen pob un
am gysgod mewn stormus hin.
Deuwch i ganu, deuwch i foli
y Ceidwad a’n carodd ni;
“Croeso i chwi,” yw galwad yr Iesu,
“O deuwch ataf fi.”
D. ISLWYN BEYNON
(Caneuon Ffydd 403)
PowerPoint