logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dim ond y Sanctaidd Dduw

Pennill 1
Pwy all orchymyn holl luoedd nefoedd?
Pwy wna i bob brenin blygu lawr?
A sibrwd pwy wna i’r twyllwch grynu?
Dim ond y Sanctaidd Dduw

Pennill 2
Pa harddwch arall sy’n mynnu moliant?
Pa odidowgrwydd sy’n fwy na’r haul?
Pa fath ysblander reola’n gyfiawn?
Dim ond y Sanctaidd Dduw

Cytgan
Dewch nawr a gwelwch
Yr Un, Yr Unigryw
Bloeddiwch, mae’n Sanctaidd
Am byth y mae’n Sanctaidd Dduw
Dewch a molwch y Sanctaidd Dduw

Pennill 3
Pa fath ogoniant sy’n ysu’n danbaid?
A pa fath nerth ddaw â’r meirw’n fyw?
Pwy bia’r enw sydd heb ei drechu?
Dim ond y Sanctaidd Dduw

Cytgan
(X2)

Pennill 4
Pwy allai f’achub o’m holl fethiannau?
Pwy fyddai’n cynnig ei Fab ei hun?
Pwy sy’n fy ngwahodd i’w alw’n Abba?
Dim ond y Sanctaidd Dduw
Dim ond fy Sanctaidd Dduw

Cytgan (X2)

Dim ond y Sanctaidd Dduw / Only a Holy God (Dustin Smith, Jonny Robinson, Michael Farron a Rich Thompson)
cyf. Arwel E Jones
© 2016 CityAlight Music (Gwein. gan Integrity Music)
Farren Love And War Publishing (Gwein. gan Integrity Music)
Integrity’s Alleluia! Music (Gwein. gan Integrity Music)
Integrity’s Praise! Music (Gwein. gan Integrity Music)
CCLI # 7169886

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • February 10, 2021