Pennill 1
Bydysawd ddaeth o’r gwagle mawr
Wrth wrando ar dy air
Yr wybren fry a’r ddaear is
Yr ardd a ddaeth o’r llwch
Dy lais di sydd yn tanio’r nen
A gwead yr holl sêr
Yn nwyster dy holl fawredd di
Dangosaist pwy wyt ti
Corws
Pob clod a pharch i’th enw di
Ti’n deilwng, Ti’n deilwng
 saint ac engyl, dwedwn ni
Ti’n Sanctaidd, Ti’n Sanctaidd
Pennill 2
Dy gariad dros d’elynion di
Dy fab fu ar y groes
Yn gwaedu bu, mewn ing a phoen
Yn agor ffordd i ni
Disgleirdeb clir o’th lewyrch di
Ac ôl dy galon lawn
Mewn aberth pur, y ffyddlon un
Dangosaist pwy wyt ti
Corws
Pont
Ymgrymwn ni gerbron yr un
A fu ac sydd ac eto’i ddod
Does dim ‘run fath â thi
Does dim ‘run fath
Corws
Nothing Compares / Does dim ‘run fath (Grant McCurdy | Jeff Capps | The Village Church)
Hawlfraint© 2020 The Village Church a Blepo Publishing. Cedwir pob hawl. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones