Dos, Efengyl, o Galfaria,
ac amlyga allu’r groes;
dangos i bechadur noddfa
yn haeddiannau angau loes;
cyfyng awr Iesu mawr
drodd yn gân i deulu’r llawr.
Dos, Efengyl, dros y gwledydd,
ar adenydd dwyfol ras,
gan gyhoeddi’r hyfryd newydd
i dylwythau’r ddaear las;
cariad Duw’n unig yw
sylfaen gobaith dynol-ryw.
Dos, Efengyl, drwy yr oesau,
arwain fyrdd i lwybrau’r nef;
dangos Grist i’r cenedlaethau,
gwisg hwynt â’i gyfiawnder ef;
doed y byd o un fryd
i fawrhau ei gariad drud.
PENLLYN (W.Evans Jones), 1854-1938
(Caneuon Ffydd 248)
PowerPoint