Dragwyddol Dad, dy gariad mawr
sy’n gwylied drosom ar bob awr;
ar fôr a thir, ar fryn a glan,
ym merw’r dref, mewn tawel fan;
dy nawdd rho heddiw i’r rhai sydd
yn arddel ynot ti eu ffydd.
Dragwyddol Geidwad o’th fawr ras
ddioddefaist lid gelynion cas,
ar dy drugaredd nid oes ball
a’th eiriol, methu fyth ni all
O cynnal di, rhag gwarth a gwae,
y rhai i’th air sy’n ufuddhau.
Dragwyddol Ysbryd, mwyn dy lef,
a’n dug i ddewis ffordd y nef;
ffieiddio wnaethom feiau’n hoes
a thystio o’r newydd wrth y groes
er mwyn y Mab, O cadw o hyd
y rhai sydd yn ymwadu â’r byd.
F. W. BOREHAM, 1871-1959 (Eternal Father, whose great love), cyf. D. B. JONES, 1889-1971
(Caneuon Ffydd 670)
PowerPoint