Duw lefarodd drwy’r proffwydi –
Digyfnewid Air roes Ef –
Trwy yr oesoedd yn cyhoeddi
Arglwydd cyfiawn, Duw y nef;
Tra terfysga byd di-obaith
Angor sicr ddeil yn dynn:
Duw sydd ar ei orsedd gadarn,
Cyntaf, olaf, unig Un.
Duw lefarodd trwy yr Iesu:
Crist, tragwyddol Fab o’r nef;
Gwir ddisgleirdeb y gogoniant,
Un â’r Tad erioed yw Ef;
Trwy y Gair yn gnawd llefarodd –
Duw cyn bod y bydoedd yw –
Golau’r nef i’n byd ddisgynnodd,
Dyn i ddyn yn dangos Duw.
Duw lefara trwy ei Ysbryd,
Siarad wna â chalon dyn,
Heddiw fel erioed yn datgan
Trwy ei Air y Gair ei Hun;
Cwyd teyrnasoedd byd, a disgyn;
Ffydd yr Iesu, cadarn yw;
Saif yr Iôr a’i Air heb newid,
Cyntaf, olaf, unig Dduw.
G.W. Briggs: God hath spoken by His prophets, Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd M Job
© The Hymn Society, gweinyddir gan Hope Publishing.