Duw’n darpar o hyd at raid dynol-ryw
yw’n cysur i gyd a’n cymorth i fyw;
pan sycho ffynhonnau cysuron y llawr
ei heddwch fel afon a lifa bob awr.
Er trymed ein baich, ni gofiwn o hyd
mor gadarn ei fraich, mor dyner ei fryd;
y cof am Galfaria ac aberth y groes
drwy ras a sancteiddia gystuddiau fy oes.
Mae’r gelyn yn gry’, ond cryfach yw Duw;
af ato yn hy, twr cadarn im yw:
pan droir yn adfeilion amcanion pob dyn
mi ganaf mor ffyddlon yw’r Cyfaill a lŷn.
Rheolir pob byd gan air cadarn Iôr,
diogel o hyd yw daear a môr;
a minnau nid ofnaf, er lleied fy nerth,
mewn adfyd mi gofiaf Breswylydd y berth.
CERNYW, 1843-1937
(Caneuon Ffydd 119)
PowerPoint