Dy deyrnas, Dduw Dad, yw’r cyfanfyd i gyd,
dy ddwyfol lywodraeth sy’n cynnal pob byd;
teyrnasoedd y ddaear, darfyddant bob un,
tragwyddol dy deyrnas fel tithau dy hun.
Dy deyrnas a ddaeth yn dy Fab, Iesu Grist,
i fyd llawn anobaith, yn gaeth ac yn drist;
cyfinawnder a chariad dan goron ei groes,
Efengyl y deyrnas yw gobaith pob oes.
O deled dy deyrnas i’n calon, O Dduw,
d’ewyllys o wirfodd yn briffordd ein byw,
boed cyfoeth a chynnyrch yr holl ddaear faith
i bob un yn foddion cynhaliaeth a gwaith.
I’n plith doed dy deyrnas i’r oesoedd i ddod –
gan fyw i’r dyfodol drwy d’Eglwys er clod;
cenhedloedd ac ieithoedd a’u doniau ynghyd
mewn mawl yn cyffesu Gwaredwr y byd.
TUDOR DAVIES © Gwyn T. Davies. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 266)
PowerPoint