Dyhewn am dafodau tân
i’n cyffwrdd ninnau,
I’n troi yn dystion tanbaid drosot ti.
Sychedwn am adfywiad;
gwyrthiau’r Ysbryd Sanctaidd,
Hiraethwn weld ‘r afradlon yn dod nôl.
Mae’n holl obeithion ni ynot ti,
Pa bryd y daw ‘rhain yn wir?
Deled dy Ysbryd mewn grymuster,
Rho inni weledigaeth newydd,
Deled dy Deyrnas yw ein gweddi,
Gweithreda nawr.
Dyhewn glywed sŵn
fel nerthol wynt yn rhuthro,
Gan ‘sgubo ymaith bob ansicrwydd blin.
Dilea ein holl lesgedd;
llanw ni â’th rym di,
I dystio’n eofn am yr Iesu byw.
Mae’n holl obeithion ynot ti,
Pa bryd y daw ‘rhain yn wir?
Dyhewn am dy weled
yn dy holl ogoniant,
Yn arglwyddiaethu
dros genhedloedd byd.
Cyfiawnder yn fuddugol,
dros ormes a drygioni,
A’th eglwys ufudd yn cysuro’r tlawd.
Mae’n holl obeithion ynot ti,
Pa bryd y daw ‘rhain yn wir?
Cyfieithiad Awdurdodedig Alun Tudur, I dream of tongues of fire (Believer) Matt Redman
© 1996 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 2: 56)
PowerPoint