Dyma Feibil annwyl Iesu,
dyma rodd deheulaw Duw;
dengys hwn y ffordd i farw;
dengys hwn y ffordd i fyw;
dengys hwn y golled erchyll
gafwyd draw yn Eden drist,
dengys hwn y ffordd i’r bywyd
drwy adnabod Iesu Grist.
CASGLIAD T. OWEN, 1820 priodolir i RICHARD DAVIES, 1793-1826
(Caneuon Ffydd 198)
PowerPoint