logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyma ni’n mynd i Fethlehem

Dyma ni’n mynd i Fethlehem
i Fethlehem i Fethlehem
Dyma ni’n mynd i Fethlehem
ar fore dydd Nadolig

Beth welwn ni ym Methlehem
ym Methlehem ym Methlehem
Beth welwn ni ym Methlehem
ar fore dydd Nadolig

Y baban yn cysgu ym Methlehem
ym Methlehem ym Methlehem
Y baban yn cysgu ym Methlehem
ar fore dydd Nadolig

Bugeuliaid ddaw yno ym Methlehem
ym Methlehem ym Methlehem
Bugeuliaid ddaw yno ym Methlehem
ar fore dydd Nadolig

Brenhinoedd ddaw hefyd i Fethlehem
i Fethlehem i Fethlehem
Brenhinoedd ddaw hefyd i Fethlehem
ar fore dydd Nadolig

WYNNE LLOYD

Dyma ni’n mynd i Fethlehem – Cordiau Gitar (PDF)
  • Aled Davies,
  • December 18, 2025