Corws
Clod i’r Iôr
Ei gariad sy’n fwy
(Yn) drech na’r tywyllwch, (yn) newydd bob dydd
Mae’n beiau yn llawer, ei gariad sy’n fwy
Pennill 1
Pa gariad all beidio â chofio ein bai
Ac E’n hollwybodol, ni chyfrant o’i flaen
I ddyfnder y moroedd fe’u teflir i gyd
Mae’n beiau yn llawer, ei gariad sy’n fwy
Corws
Pennill 2
Pa ‘fynedd sy’n aros tra crwydro a wnawn
Y Tad sydd mor dyner, sy’n galw ni nawr
Rhoir croeso i’r gwannaf, y butraf, y tlawd
Mae’n beiau yn llawer, ei gariad sy’n fwy
Corws
Pennill 3
Ac o’r fath haelioni a roddir i ni
Ei waed oedd y taliad, ei fywyd y pris
Yn sefyll dan ddyled sy’n ormod i ni
Mae’n beiau yn llawer, ei gariad sy’n fwy
Corws
Cyfieithiad awdurdodedig: Arwel E Jones
Ei gariad sy’n fwy / His Mercy is More – Bosell/Papa
Hawlfraint © 2016 Getty Music Hymns and Songs (Gwein. gan Music Services, Inc.) / Getty Music Publishing (Gwein.gan Music Services, Inc.) / Love Your Enemies Publishing (Gwein. gan Music Services, Inc.) / Messenger Hymns (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org)