Er chwilio’r holl fyd
a’i fwyniant i gyd
nid ynddo mae’r balm a’m hiacha;
ond digon im yw
yr Iesu a’i friw,
fe’m gwared o’m penyd a’m pla.
O’r nefoedd fe ddaeth
i achub rhai caeth,
fe’i gwelwyd mewn preseb oedd wael;
ar groesbren fe’i caed,
rhoes drosom ei waed,
ei debyg ni ellir ei gael.
Cydunwn ar gân
fel sain adar mân
yn lleisio ar doriad y wawr;
Gwaredwr mor hael
sy’n derbyn rhai gwael:
daeth haf ar drueiniaid y llawr.
THOMAS JONES, 1769-1850
(Caneuon Ffydd 371)
PowerPoint