Er maint yw chwerw boen y byd
mi rof fy mryd ar Iesu,
ac er pob cystudd trwm a loes
mi dreulia’ f’oes i’w garu.
Ni welais gyfaill dan y sêr
mor dyner ag yw Iesu;
‘rwy’n penderfynu treulio f’oes
i ddwyn ei groes dan ganu.
Ni theimlais ddim gofidiau dwys
wrth roi fy mhwys ar Iesu;
am hyn dymuna f’enaid fod
yn barod i’w was’naethu.
Ymhob rhyw gyfyngderau blin
caf laeth a gwin gan Iesu;
mae’n ennill serch f’enaid gwan
o bob rhyw fan i’w garu.
IEUAN GWYNEDD, 1820-52
(Caneuon Ffydd 299)
PowerPoint