Fe chwythodd yr awel ar Gymru drachefn,
clodforwn di, Arglwydd, fod gwyrth yn dy drefn:
dihunaist ni’r meirwon, a’n codi drwy ffydd,
a throi ein hwynebau at degwch y dydd.
Molwn di, molwn di’n un teulu ynghyd,
molwn di, molwn di, a’n cân dros y byd;
cydweithiwn, cydgerddwn, cydfolwn gan fyw
i roi iti’r cyfan, ein Harglwydd a’n Duw.
Diolchwn am lwybrau a gerddem ni gynt,
fe fuost yn gwmni a nerth ar ein hynt;
anfonaist ni’n dystion i’n ffyrdd ar wahân,
a fflam yr Efengyl roist ynom yn dân.
Fe gawsom dy gysur wrth rodio drwy’r glyn,
ac oriau gorfoledd, a’n traed ar y bryn,
pan fyddem fel plant yn cael cydio’n dy law
i syllu ar wynfyd y ddinas o draw.
Ond heddiw dy glodydd a ganwn i gyd
am iti ein tynnu’n un teulu ynghyd:
cydweithiwn, cydgerddwn, cydfolwn gan fyw
i roi iti’r cyfan, ein Harglwydd a’n Duw.
JOHN GWILYM JONES
(Caneuon Ffydd 627)
PowerPoint