O’r dyfnder galwaf arnat ti,
O fannau tywyll daw fy llais;
O tro dy glust tuag ataf nawr
Ac o’th drugaredd gwranda, Iôr.
Pe baet yn cyfri ’mhechod i
Sut fedrwn ddod at d’orsedd nawr?
Ond mae maddeuant llawn o’m mlaen,
Rhyfeddaf at d’achubol ras.
Fe ddisgwyliaf i, fe ddisgwyliaf i,
Ar dy air rwy’n pwyso nawr;
Fe ddisgwyliaf i, gwnaf, amdanat ti
Nes i’m henaid fod yn llawn.
Rho d’obaith di yn Nuw ei hun,
Bydd ddewr yn nerth ei allu ef
A’i fuddugoliaeth llwyr am byth
Trwy Grist yn dod yn rhydd o’r bedd.
Fe ddisgwyliaf i, fe ddisgwyliaf i,
Ar dy air rwy’n pwyso nawr;
Fe ddisgwyliaf i, gwnaf, amdanat ti
Nes i’m henaid fod yn llawn.
Efe a ddaeth i agor ffordd,
A Duw ei hun yn talu’r pris
I bawb sy’n pwyso arno ef
I gael iachâd trwy’i aberth drud.
Fe ddisgwyliaf i, fe ddisgwyliaf i,
Drwy y storm a thrwy y nos;
Fe ddisgwyliaf i, gwnaf, amdanat ti,
(Dy) gariad di yw fy mwynhad.
Fe ddisgwyliaf i, fe ddisgwyliaf i
Drwy y storm a thrwy y nos;
Fe ddisgwyliaf i, gwnaf, amdanat ti,
(Dy) gariad di yw fy mwynhad.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arwel E. Jones
I WILL WAIT FOR YOU (PSALM 130) GETTY/KAUFLIN/MERKEL/TOWNEND
Hawlfraint © 2018 Getty Music Publishing/Jordan Kauflin Music/Townend Songs (Gwein. Songsolutions www.songsolutions.org) & Matt Merkel Songs. Cedwir pob hawl. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.
CCLI # 7153658
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint