Cuddia fi yn dy gôl,
Gwarchod fi yn dy ddwylo cryf,
Pan fo’r storm yn curo wrth fy nrws
Byddi yn fy nghodi atat ti,
Arglwydd fe ddistewaf yn dy law,
Ymddiriedaf ynot ti, fy Nhad.
Rwy’n gorffwys nawr, yng Nghrist ei hun
Yn profi’i nerth, wrth bwyso arno Ef
Rwy’n llawenhau, ynot ti
Heb ofni mwy, ond sefyll yn dy ras.
Reuben Morgan: Still, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arwel E. Jones
© 2005 Hillsong Music Publishing (APRA)
PO Box 1195 Castle Hill NSW 1765 Australia
PH +61 2 8853 5353 FAX +61 2 8846 4625
E-mail: publishing@hillsong.com
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.