logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fel aur sy’n werthfawr

Fel aur sy’n werthfawr, a melysder diliau mêl,
Gwn dy fod yn caru’r ddinas hon – O! gwêl
Yr holl blant sy’n chwarae ar ei strydoedd hi,
A phob baban bach sy’n llefain yn ei grud.

Pawb sy’n drysu neu’n syrffedu yn ei waith,
Neu sy’n diodde rhwystredigaeth araf daith.
Rwy’n teimlo gwefr wrth feddwl, mae’n fy esgyrn nawr,
Dy fod am anfon d’Ysbryd, rhoi diwygiad mawr.

Clywaf drwst taranau yn y pellter,
Mae rhyw gyffro yn agosáu;
Mae dy Ysbryd yn ein deffro eto –
“Rhowch eich beichiau’i lawr,
Rhowch eich beichiau’i lawr.”

Diwygiad, diwygiad – Tyrd, ennyn nefol dân!

Gweinidogion sy’n dal ati er pob siom,
A chyffuriau’n cynnig gwynfyd, ton ‘r ôl ton.
Y di-waith yn segur heb ddim pwrpas byw
A dagrau weddw yn ei llethu, Arglwydd clyw!

Gwrando gri yr hen a’r ieuanc, gŵr a gwraig,
Ti yw’n gobaith, Arglwydd; tynna ni o’r llaid.
Rwy’n teimlo’r wefr wrth feddwl, mae’n fy esgyrn nawr,
Dy fod am anfon d’Ysbryd, rhoi diwygad mawr.

(Grym Mawl 2: 8)

Robin Mark: As sure as gold is precious, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1997 Daybreak Music Ltd.

PowerPoint