Fugail da, mae’r defaid eraill
eto ‘mhell o’r gorlan glyd,
crwydro’n glwyfus ar ddisberod
maent yn nrysni’r tywyll fyd:
danfon allan dy fugeiliaid,
â’u calonnau yn y gwaith,
er mwyn cyrchu’r rhai crwydredig
o bellterau’r anial maith.
Hiraeth cyrchu’r defaid eraill
ynom ninnau elo’n fwy;
dylanwadau d’Ysbryd gerddo
ymhob eglwys drostynt hwy:
yma, yn ein gwlad ein hunain,
gwna ni’n llais dy gariad di,
a sŵn achub myrdd myrddiynau
fyddo draw dros donnau’r lli.
Maent i ddod, medd addewidion,
o bob ardal dan y nen;
dwedaist tithau, “Rhaid eu cyrchu,”
trengaist drostynt ar y pren.
O er mwyn yr einioes roddwyd
ac er mwyn yr eiriol drud,
dwg i mewn y defaid eraill,
Fugail da, i’th gorlan glyd.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 260)
PowerPoint