Glywaist ti lais mwyn yr Iesu’n
D’alw di i’w ddilyn Ef?
Brofaist ti Ei gwmni graslon
Enaid, ar dy ffordd tua thref,
Gyda chariad cywir, ffyddlon
Cariad dwyfol lifa’n rhad,
Cariad Ceidwad cyfiawn, rhadlon?
Yn Ei groes, tosturi ga’d.
Glywaist ti lais mwyn trugaredd
Yn rhoi hedd a phardwn pur?
Deimlaist ti falm bryn Calfaria’n
Rhwymo’th glwyfau oll fel dur?
A fu iachawdwriaeth debyg,
Fu tosturi ’rioed fel hyn?
Gwêl ddioddefaint mawr y Ceidwad,
Cusan gras i ti, am ddim.
Glywaist ti yr Iesu’n galw
Pawb i’w ganlyn yn ddi-oed?
Deimlaist ti holl rym Ei Berson
’N denu’th enaid at Ei droed?
Gwrando nawr ar Ei wahoddiad,
Ar sain miwsig gras y Nef;
Gad i hedd achubiaeth Iesu
Lanw’th fron, cofleidia Ef.
Glywi di lais Iesu’n d’alw
I drigfannau pur y nef?
Brofi di’r addewid gwerthfawr?
Bugail tyner ydyw Ef.
Os ymateb wnest cyn ’madael
I Efengyl a gras Duw,
Ni wrthodir neb a gredodd
Ac a garodd Iesu gwiw.
‘Have you heard the voice of Jesus’
Vernon Higham (Christian Hymns: Rhif 473)
cyf. Linda Lockley