Hosanna, Haleliwia,
fe anwyd Brawd i ni;
fe dalodd ein holl ddyled
ar fynydd Calfarî;
Hosanna, Haleliwia,
Brawd ffyddlon diwahân;
Brawd erbyn dydd o g’ledi,
Brawd yw mewn dŵr a thân.
Brawd annwyl sy’n ein cofio
mewn oriau cyfyng, caeth;
Brawd llawn o gydymdeimlad
ni chlywyd am ei fath;
Brawd cadarn yn y frwydyr;
fe geidw’i frodyr gwan;
yn dirion dan ei adain
fe ddaw â’r llesg i’r lan.
DAFYDD WILLIAM, 1721?-94
(Caneuon Ffydd 327)
PowerPoint