Hwn, hwn ydyw’r Duw folwn ni,
ein Ffrind digyfnewid, di-lyth;
ei gariad, lawn cymaint â’i nerth,
heb fesur, heb ddiwedd ŷnt byth.
Yr Alffa a’r Omega yw Crist,
ei Ysbryd a’n dwg draw i dre’;
rhown glod am ei ras hyd yn hyn,
a’n ffydd am a ddaw ynddo fe.
JOSEPH HART, 1712-68 cyf. E. H. GRIFFITHS © Olwen Griffiths. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 35)