Hyfryd eiriau’r Iesu,
bywyd ynddynt sydd,
digon byth i’n harwain
i dragwyddol ddydd:
maent o hyd yn newydd,
maent yn llawn o’r nef;
sicrach na’r mynyddoedd
yw ei eiriau ef.
Newid mae gwybodaeth
a dysgeidiaeth dyn;
aros mae Efengyl
Iesu byth yr un;
Athro ac Arweinydd
yw efe ‘mhob oes;
a thra pery’r ddaear
pery golau’r groes.
Wrth in wrando’r Iesu,
haws adnabod Duw;
ac wrth gredu ynddo
mae’n felysach byw.
Mae ei wenau tirion
yn goleuo’r bedd;
ac yn ei wirionedd
mae tragwyddol hedd.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 381)
PowerPoint