Iesu roes addewid hyfryd
cyn ei fynd i ben ei daith
yr anfonai ef ei Ysbryd
i roi bywyd yn ei waith;
dawn yr Ysbryd,
digon i’r disgyblion fu.
Cofiodd Iesu ei addewid;
O cyflawned hi yn awr,
fel y gwnaeth ar ddydd y Sulgwyn
pan achubwyd tyrfa fawr;
enw Iesu
gaiff yr holl ogoniant mwy.
Mae digonedd cyflawn eto
yn yr hen addewid wiw;
glynwn ninnau wrth weddïo
am ymweliad Ysbryd Duw;
O tywallter
ef yn helaeth arnom ni.
O Lân Ysbryd yr addewid,
tyred yn dy ddawn di-lyth;
mae dy ras yn ddigyfnewid,
gweithia’n rymus yn ein plith:
deffro’r Eglwys,
achub, argyhoedda’r byd.
ROGER EDWARDS, 1811-86
(Caneuon Ffydd 576)
PowerPoint