Ioan 10
Iesu ti yw drws pob gobaith,
Ti yw’r ffordd ymlaen at Dduw,
Drwy dy ddilyn, gwyddom ninnau
Er ein beiau, y cawn fyw.
Fel y bu i’r defaid ddilyn
Ôl dy droed, dros lwybrau maith,
Credwn mai diogel fyddwn
Er peryglon mwya’n taith.
Ti yw bugail mawr y defaid,
Sydd o hyd yn ceisio’r praidd.
Ac yn gwarchod bwlch y gorlan
Pa beth bynnag ffurf y blaidd.
Os yw’r rheibus yn ein herio
Neu yn denu ni i’w gôl,
Ymddiriedwn yn dy allu
I’n bugeilio ninnau’n ôl.
Iesu, rwyt yn galw heddiw
Ar y sawl sydd yn ddi-ffydd
I ymglywed â’th wahoddiad,
A mwynhau’r tragwyddol ddydd.
Ti yw’r ffordd ymlaen at ryddid
Rhag hualau poenau’r byd,
Ti sy’n gwarchod pawb drwy rannu
Grym a gras dy gariad drud.
Denzil I. John. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
PowerPoint