logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iôr y nef, ymwêl â’r ddaear

Iôr y nef, ymwêl â’r ddaear,
edrych ar y maes, y byd:
byd a greaist, gofiaist, geraist,
brynaist yn yr aberth drud;
anfon, Arglwydd,
weithwyr i’r cynhaeaf mawr.

Ti, a roddodd air y deyrnas,
gair y bywyd, gair dy ras,
rho dy fendith ar yr heuwr,
llwydda law dy waelaf was:
arddel, Arglwydd,
weithwyr y cynhaeaf mawr.

Ti, sy’n arwain y cymylau
ac yn plygu bwa’r nef,
gwna dy was yn gwmwl gwlithog,
rho dy Ysbryd arno ef
er d’ogoniant,
Arglwydd y cynhaeaf mawr.

CADVAN, 1846-1923

(Caneuon Ffydd 648)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015