Lle bynnag wyt, O Grist,
mae bywyd pur ei flas,
mae ysbryd yno’n rym
a gloyw ffrydiau gras;
mae yno fwynder hedd
i gyfoethogi’n byw:
lle bynnag wyt, O Grist,
cawn weled ŵyneb Duw.
Lle bynnag wyt, O Grist,
symudir baich ein bai,
bydd sanctaidd olau’r nef
ar wedd yr addfwyn rai;
cawn weld yr hyn sy’n hardd
yn eglur heb un llen:
lle bynnag wyt, O Grist,
bydd cariad fyth yn ben.
Lle bynnag wyt, O Grist,
mae rhin y dwyfol dân,
cawn ymfodloni mwy
yn y cynhesrwydd glân;
daw trugareddau’r Iôn
yn nerthoedd i’n cryfhau:
lle bynnag wyt, O Grist,
bydd sŵn y llawenhau.
W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws
(Caneuon Ffydd: 379)
PowerPoint