Mae croeso i’w deyrnas
i blant bach o hyd,
Agorodd ei fynwes
i’w derbyn i gyd :
Gadewch i blant bychain
Ddod ataf-medd ef;
Cans eiddo y cyfryw
Yw Teyrnas y Nef.
Cytgan:
Mae’r Iesu yn derbyn
Plant bychain o hyd,
Hosanna i Enw
Gwaredwr y byd.
Pan oedd yn mynd heibio
i’r ddinas neu’r dref,
Y plant a’u Hosanna
Oedd uchaf eu llef:
‘Roedd Iesu yn tynnu
Y plant ato’i Hun;
A bendith yn barod
Ar gyfer pob un.
Watcyn Wyn (W.H.Williams, Rhydaman, 1844-1905)
Y Llawlyfr Moliant Newydd 823