Mae ’na newyn o fath arall
Ar y rhai sy’n dda eu byd,
Er na welir hwy yn marw
Nac yn wylo ar y stryd.
Mae na angen dwfn a dirgel
Sydd ym mhawb o’n cwmpas ni;
Er na welwn hwy’n dihoeni,
Er na chodant lef na chri.
O rho dy fanna, Iôr, yn y diffaethwch;
Dy ddyfroedd bywiol di i’r sychdir hwn!
Rho air i ni i’w ddweud,
A’th gariad rhad i’w roi
Mae na newyn o fath arall
Ond aiff Duw o flaen ei bobl
gam wrth gam.
Wyt ti’n eiriol â’n Tad nefol
Dros y rhai afradlon oll?
Neu wyt ti’n canu ‘haleliwia’
Tra bod rhai yn dal ar goll?
Wyt ti’n diffodd fflam yr Ysbryd?
Yw dy weddi’n nerthu’th ffydd?
Wyt ti’n derbyn maeth i’r enaid,
Bara’r Gair, ar ddechrau’r dydd?
Clywch, mae Duw yn galw arnom,
Pwy sy’n fodlon gwrando’i lef,
A mynd at y rhai anghenus
Â’i ras a’i gariad Ef?
Fyddwn ninnau’n weision ffyddlon,
Ac yn ufudd nawr i’w gais?
Os mai eiddo’r Arglwydd ydym
Pwy all wrthod codi llais?
Fe godwn faner, lôr,
yn y diffaethwch;
Dy ddyfroedd bywiol di i’r sychdir hwn.
Bara ein bywyd wyt,
Ein Harglwydd lesu Grist.
Pan fo newyn o fath aralI,
Caiff pawb eu llwyr ddigoni ynot ti.
Fe gaiff pawb eu llwyr ddigoni ynot ti.
Cyfieithiad Awdurdodedig: anad., There’s another kind of famine: John Clarke/Philip Glassborow
Hawlfraint © 1987 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 1: 156)
PowerPoint