logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae’n dod, mae’r Brenin yn dod

Mae’n dod, mae’n dod, mae’r Brenin yn dod,
croesawn ef:
hardd Frenin y gogoniant yw
o orsedd nef.

Mae’n dod (mae’n dod),
mae’n dod (mae’n dod),
ef yw Brenin nef (ef yw Brenin nef);
mae’n dod (mae’n dod),
mae’n dod (mae’n dod),
awn i mewn i’w deyrnas ef.

I’r galon friw mae’i eiriau yn falm
a’r caeth aiff yn rhydd;
fe glyw y byddar, dawnsia’r cloff
a’r dall wêl ddydd.

Y sawl sydd yn galaru nawr
mewn poen a chur,
bydd chwerthin a llawenydd mawr
i’r rhain ryw ddydd.

Dewch, bobol, gyda ni i foli
Brenin nef
gorseddau’r duwiau ffug ddinistrir
ganddo ef.

Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Arfon Jones
Teitl Saesneg Gwreiddiol: Make way, Graham Kendrick
Hawlfraint © 1986 Thankyou Music ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Integrity Music (integritymusic.com).
Defnyddir trwy ganiatâd

(Caneuon Ffydd 414, Grym Mawl 1: 115)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015