Mae’r byd yn canu cân y Tad;
Mae’n galw’r haul i ddeffro’r wawr
A mesur hyd y dydd,
Nes machlud ddaw
A’i liwiau rhudd.
Ei fysedd wnaeth yr eira mân
Ein byd sy’n troi o dan ei law;
A rhyddid eryr fry,
Fel chwerthin plant, o Dduw y dônt.
Haleliwia!
Cyfodwn oll a chanu’n awr:
Haleliwia!
Canwn foliant i’n Creawdwr
Sôn wrth bawb am wyrthiau Brenin nef.
I fyd o amser ddaeth y Mab,
A’r creu a welodd wyneb Crist
Datgelodd gynllun byw
I agor ffordd i ni at Dduw.
Ei fywyd pur ar lwybrau’r byd,
A dorrodd afael felltith ddu,
A’i farw wnaeth ni’n rhydd
I fyw am byth a byw drwy ffydd.
Y cread sydd yn awchu gweld
Dyfodiad Crist i’r byd yn ôl
Pob rhyfel blin a thrais
Ddiflannant oll yn sŵn ei lais.
Fe welwn ddaear newydd lân
A’r nef a’r byd yn moli’n un
Gogoniant fydd y cri
Tra’n moli’n Duw a’n Harglwydd ni !
(Creation Sings the Father’s song, Keith a Kristyn Getty & Stuart Townend)
Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Gwenda Jenkins
© ac yn y cyfieithiad hwn 2008 Thankyou Music/Adm. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd