Mae’r oesau’n disgyn draw
fel ton ar don i’r môr,
ac oes ar oes a ddaw
wrth drefniad doeth yr Iôr;
ond syfled oesau, cilied dyn,
mae Iesu Grist yn para’r un.
Mae Eglwys Dduw yn gref
yng nghryfder Iesu mawr
er syrthio sêr y nef
fel ffigys ir i’r llawr;
saif hon yn deg ar sail ddi-grŷn,
mae Iesu Grist yn para’r un.
CERNYW, 1843-1937
(Caneuon Ffydd 309)
PowerPoint