Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw,
a’m prynodd â thaliad mor ddrud;
fe saif ar y ddaear, gwir yw,
yn niwedd holl oesoedd y byd:
er ised, er gwaeled fy ngwedd,
teyrnasu mae ‘Mhrynwr a’m Brawd;
ac er fy malurio’n y bedd
ca’i weled ef allan o’m cnawd.
Wel, arno bo ‘ngolwg bob dydd,
a’i daliad anfeidrol o werth;
gwir awdur, perffeithydd ein ffydd,
fe’m cynnal ar lwybrau blin serth:
fy enaid, ymestyn ymlaen,
na orffwys nes cyrraedd y tir,
y Ganaan dragwyddol ei chân,
y Saboth hyfrydol yn wir.
THOMAS JONES, 1756-1820
(Caneuon Ffydd 547)
PowerPoint